Mae’r ap hwn wedi’i greu i ddarparu gwybodaeth, cymorth ac adnoddau ar gyfer plant niwrowahanol, eu teuluoedd ac ymarferwyr addysg neu ofal cymdeithasol. Ei nod yw darparu cynnwys hygyrch a defnyddiol i gefnogi teithiau unigol. Mae’r wybodaeth yn yr ap hwn yn seiliedig ar adnoddau sydd ar gael yn gyhoeddus ac ar ganllawiau gan Gyngor Gwynedd a partneriaid eraill.
Preifatrwydd: Nid yw’r ap yn casglu nac yn storio unrhyw ddata personol gan ddefnyddwyr. Nid oes angen mewngofnodi, nac unrhyw wybodaeth bersonol, ac mae’r ap yn gweithio’n all-lein unwaith y bydd y cynnwys wedi’i lawrlwytho.
Atebolrwydd: Nid yw Cyngor Gwynedd yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu anwybodaeth mewn cynnwys, nac am unrhyw ddibyniaeth a roddir ar yr wybodaeth a ddarperir. Dylai defnyddwyr ymgynghori ag arbenigwyr priodol os oes angen cymorth proffesiynol.
Newidiadau i’r Telerau: Gall y telerau hyn newid o bryd i’w gilydd. Bydd newidiadau’n cael eu hadlewyrchu yn y fersiwn ddiweddaraf o’r ap.
Hawlfraint: Mae’r cynnwys yn eiddo i Awtistiaeth Gwynedd a’u partneriaid ac ni chaniateir ei gopïo na’i ailddosbarthu heb ganiatâd ymlaen llaw.
Cyswllt: Rheolir yr ap gan Awtisitaeth Gwynedd (Cyngor Gwynedd). Cysylltwch:
Awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru